Caerdydd

Lleolir prifddinas Cymru yng nghalon rhanbarth de Cymru, un o ranbarthau mwyaf cystadleuol y DU, ac mae’n gyfrifol am hanner o gyfanswm GYC Cymru (£21.5 biliwn). Gyda phoblogaeth gref o 1.4 miliwn o bobl, mae gan y rhanbarth weithlu o 667,000, gan gynnwys 210,000 o weithwyr yng nghanol y ddinas.

Mae Caerdydd yn un o brif ganolfannau’r DU ar gyfer masnach, gwasanaethau ariannol a’r diwydiannau creadigol ac mae’n un o’r deg lleoliad mwyaf poblogaidd yn y DU ymysg twristiaid. Cafodd y ddinas ei phleidleisio yn un o’r deg lleoliad buddsoddi gorau yn Ewrop gan Gylchgrawn Foreign Direct Investment y Financial Times ac mae’n un o ddinasoedd mwyaf cystadleuol Prydain yn Mynegai Cystadleurwydd y DU.

Mae trafnidiaeth bob amser wedi bod yn ganolog i ddatblygiad Caerdydd – roedd ei thwf fel dinas borthladd yn seiliedig ar adeiladu Camlas Morgannwg, rheilffordd Bro Taf a doc Bute y Gorllewin yn y ddinas – ac mae trafnidiaeth yn parhau i fod yn ganolog i agenda’r ddinas heddiw. Yn ddiweddar enwyd Caerdydd fel y Ddinas Deithio Gynaliadwy gyntaf yng Nghymru, mewn partneriaeth â Llywodraeth y Cynulliad, a fydd yn dod â buddsoddiad sylweddol ar gyfer ei systemau trafnidiaeth ddinesig. Caiff yr angen am system drafnidiaeth integredig ar gyfer rhanbarth y ddinas ei drafod hefyd gan bartneriaid yn ne-ddwyrain Cymru.

Yn hanfodol, mae Strategaeth Economaidd Caerdydd yn amlygu’r ffaith bod cysylltiadau trenau rhwng Caerdydd a dinasoedd mawr eraill y DU yn cael eu hystyried yn wael, a bod gwelliannau i’r cysylltiadau hyn yn hanfodol ar gyfer twf economaidd yn y dyfodol. Mae creu seilwaith trafnidiaeth cyflymder uchel cynaliadwy yn cysylltu Caerdydd gyda dinasoedd mawr eraill yn y DU, yn amlwg yn flaenoriaeth allweddol i’r ddinas.

“Mae High Speed Rail UK yn fenter allweddol. Fel pwerdy economaidd a diwylliannol Cymru, mae gan Gaerdydd ddiddordeb allweddol i weithio i ddarparu newid cwantwm ym maes cyfathrebu trenau gyda gweddill y DU ac Ewrop. Mae’n hanfodol bod dinasoedd craidd y DU yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd i ymgyrchu am system drafnidiaeth sy’n addas i’r unfed ganrif ar hugain.”

Y Cynghorydd Rodney Berman, Arweinydd Cyngor Caerdydd